Cynulliad Cenedlaethol Cymru

National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Constitutional and Legislative Affairs Committee

Bil deddfwriaeth (Cymru)

 

Legislation (Wales) Bill

 

CLA(5) LW07

Ymateb gan Dr Catrin Fflûr Huws

Evidence from Dr Catrin Fflûr Huws

Cylch gorchwyl

Wrth graffu ar egwyddorion cyffredinol y Bil yng Nghyfnod 1, bydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn trafod y canlynol:

Rhan 1

Rhaid ystyried yn gyntaf oll a yw elfennau rhan 1 un fater deddfwriaethol, ac felly yn fater ar gyfer deddf gwlad, ynteu yn fater o amodau gwaith y Cwnsler Cyffredinol, ac felly yn fater o ddyletswyddau gwaith yr unigolyn..

Un o’r anawsterau gyda’r cysyniad o Gyfraith Cymru yw pan daw elfennau o gyfraith Cymru a Lloegr yn gyfraith Cymru yn unig oherwydd bod deddfu newydd ar gyfer Lloegr wedi diddymu deddf neu ran o ddeddf fel mae’n berthnasol i Loegr, gan adael y ddeddf honno ond yn gymwys ar gyfer Cymru. Gan hynny er mwyn cyflawnrwydd rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol hefyd oruchwylio’r newidiadau hynny. Fodd bynnag, mae angen eglurder hefyd ynghylch a’r bil hwn, pe doi yn ddeddf gwlad, ynteu yr Interpretation Act 1978.

Rhaid ystyried hefyd pa gam a unionir gan wella hygyrchedd y gyfraith– gall hygyrchedd olygu dwyieithrwydd, eglurder termau a chysyniadau, y gyfraith ar bwnc penodol mewn un ddeddf, argaeledd a chyfrededd deddfwriaeth mewn ffynhonellau masnachol e.e. LexisNexis a Westlaw, argaeledd a chyfrededd deddfwriaeth mewn ffynhonellau am ddim e.e. www.legislation.gov.uk, argaeledd mewn ffynhonellau eilaidd e.e. gwefannau cynghori, gwerslyfrau i fyfyrwyr. Y mae’r gwahanol agweddau hyn yn amrywiol o ran gallu’r Cwnsler Cyffredinol i’w rheoli, ac felly rhaid ystyried beth yw ystyr llwyddiant neu fethiant i gydlynu a’r dyletswydd hwn.

 

Rhan 2

Bydd rhai o’r materion hyn yn dyblygu materion sydd yn ymddangos yn yr Interpretation Act 1978. Beth yw perthynas y bil hwn a’r ddeddf honno, a phryd y defnyddir y naill a phryd y defnyddir y llall, neu beth byddai yn digwydd petai anghysondeb rhyngddynt – p’un sydd drechaf. Hefyd oherwydd bod y mater o ddehongli deddfwriaeth yn mwny i gael ei gynnwys o fewn dwy ddeddf pe doi’r Bil hwn yn ddeddf, rhaid ystyried a yw’n peri i’r gyfraith fel sydd yn berthnasol i Gymru fod yn llai hygyrch o’r herwydd. A fyddai modd creu ychwanegiad i’r Interpretation Act 1978 er mwyn cros gyfeirio at y ddedf hon, neu i gynnwys rhan newydd o’r Interpretation Act 1978 fyddai yn cynnwys y diwygiadau sydd yn berthnasol i Gymru?

Agwedd arall sydd yn berthnasol i’w ystyried yn y cyd-destun hwn yw sefyllfaoedd lle ceir anghysonder rhwng fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg deddfwriaeth, a sut i unioni hynny. Nid yw hyn yn golygu pa fersiwn sydd drechaf, gan fod hynny yn tanseilio’r amcan o ddeddfu’n ddwyieithog, ond yn hytrach yr egwyddorion a allai lywio’r penderfyniad, megis dewis dehongliad a fyddai yn ffafrio yr unigolyn yn hytrach na’r wladwriaeth. Rhaid hefyd ystyried a oes angen rheolau penodol ynghylch yr hyn ddylai ddigwydd pan fo anghydfod rhwng fersiynau Cymaeg a Saesneg deddf – a ddylid bod datganiad o anghysondeb fel a geir yn Neddf Hawliau Dynol 1998 adran 4.

Gan bod cymal 3 y Bil yn cyfeirio at y ffaith mai dim ond i ddeddfau a ddaw yn ddedf glwad ar ôl i’r Bil Deddfwriaeth ddod yn gyfraith wlad, rhais ystyried yr anhwasterau a all godi pan bydd sefyllfa yn codi sydd yn cyfeirio at amryw o ddeddfau ac offerynau statudau, gyda rhai yn deillio o ddyddiad cyn pasio’r Bil hwn, ac eraill yn dyddio o ddyddiad wedi pasio’r Bil, gan y gall y rheolau dadansoddi fod yn wahanol.

O ran cymalau megis cymal 12, rhaid ystyried pa gyfraith sydd yn gymwys ar gyfer cyfathrebu oddi allan i Gymru – ai’r gyfraith gymwys yw’r gyfraith rhydd yn rhwymo’r anfonwr ynteu’r gyfraith sydd yn rhwymo’r derbyniwr.

Yn sgil y diffg ymwybyddiaeth a geir o bwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, byddai hefyd yn fuddiol i nodi pa bryd nad yw’r Interpretation Act 1978 yn gymwys, pryd gellir defnyddio’r naill neu’r llall, a pryd dyid defnyddio’r Interpretation Act 1978.